CYMORTH YNGLŶN � SYLWADAU AR SAFLEOEDD
Gweler hefyd y Cyflwyniad
Ar sail yr hyn rydych chi’n ei weld ar y safle, nodwch ddibenion y safle, ei ddyddiad(au), ei nodweddion, ei gyflwr a pha mor fregus yw’r safle.
* Mae’r meysydd hanfodol wedi’u dynodi � seren goch.
Math o safle
O blith y rhestr yn y gwymplen, dewiswch derm er mwyn sicrhau y caiff eich safle ei fynegeio’n gywir, neu dewiswch y blwch Anhysbys a rhowch ddisgrifiad byr o’r math o safle.
Dyddiad adeiladu
Dewiswch ddyddiad o’r gwymplen er mwyn dangos y dyddiad adeiladu.
Ffynhonnell y dyddiad
Rhowch ffynhonnell eich dyddiad adeiladu: tystiolaeth yn y maes, gwybodaeth leol neu ffynhonnell ddogfennol ynghyd �’r dyddiadau.
Dyddiadau defnydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf
O blith y rhestr yn y gwymplen, dewiswch y dyddiadau i ddynodi rhychwant y dyddiadau pryd y gwyddys bod adeiladau a gymerwyd neu a addaswyd wedi’i ddefnyddio yn y Rhyfel Byd Cyntaf neu dewiswch Anhysbys.
Defnydd yn yr Ail Ryfel Byd
Ticiwch y blwch os oes tystiolaeth bod y safle wedi’i ddefnyddio yn yr Ail Ryfel Byd.
Disgrifiad o’r safle
Crynodeb cywir neu ddisgrifiad manwl o’r hyn sydd i’w gael ar hyn o bryd ar y tir, gan nodi nifer a si�p y strwythurau ac unrhyw nodweddion perthynol. Rhowch leoliad y safle yn y tirlun, ei gynllun a’r berthynas rhwng yr adeiladau, enwau a disgrifiadau’r strwythurau unigol a’r nodweddion allanol a mewnol. Gofalwch gynnwys y manylion hyn os oes modd. Gweler yr enghreifftiau cryno yn ein harweiniad ynghylch Cofnodi Safleoedd ac Adeiladau’r Rhyfel Byd Cyntaf a’n harweiniad gweledol i nodweddion adeiladu.
Lleoliad : Topograffeg (tir gwastad, llethr, teras) ac uchder, agosrwydd at strwythurau eraill
Cyfeiriadedd : Wynebwedd a chyfeiriadedd y safle a’r strwythurau o ran G, D, Dn neu Gn
Dimensiynau : Uchder x lled yr adeiladau a’r strwythurau unigol, trwch y waliau (metrig)
Siapiau : Hirgrwn, petryal, crwn; corneli crwn neu sgw�r, y tu allan a’r tu mewn
Nodweddion : Nodweddion penodol megis agoriadau, ffenestri, drysau, lleoedd t�n
Swyddogaethau : Swyddogaethau’r adeilad neu’r strwythur, gan nodi unrhyw newidiadau dros amser
Cyfnodau : Nodweddion cyfnodau cynharach neu ddiweddarach, er enghraifft ffenestri a gaewyd neu waliau a godwyd
To : A oes to neu beidio, y math yn y rhestr, yr arddull a’r defnyddiau adeiladu
Defnyddiau adeiladu
O blith y rhestr yn y gwymplen, dewiswch derm sy’n disgrifio’r prif ddefnydd a ddefnyddiwyd wrth adeiladu. Dewiswch ail derm os oes ei angen. Yn achos gwrthgloddiau neu weddillion sydd wedi’u claddu, dewiswch Dim.