CYMORTH YNGLŶN � BYGYTHIADAU
Gweler hefyd y Cyflwyniad
Ychwanegwch
nifer o fathau o fygythiadau drwy ddewis y symbol
.
Math
Ar y gwymplen, dewiswch y prif fygythiad sy’n weladwy i’r safle, ar sail eich gwaith arsylwi neu’ch gwybodaeth bersonol, neu dewiswch Arall i ychwanegu’ch bygythiad chi’ch hun neu Dim bygythiadau.
Arwyddoc�d
Dewiswch raddfa o’r gwymplen er mwyn dangos arwyddoc�d y bygythiad:
Uchel : Bydd y bygythiad yn arwain at golli’r safle’n llwyr
Gweddol : Bydd y bygythiad yn arwain at golli rhannau o’r safle, ei addasu, ei ddymchwel yn rhannol, dirywiad neu ddifrod
Isel : Diffyg cynnal-a-chadw, difrod gan lystyfiant
Dibwys : Dim bygythiad i’r safle yn hysbys
Amserlen
Dewiswch raddfa o’r gwymplen er mwyn dangos amserlen y bygythiad:
Cyfredol : Gwaith dymchwel, erydu arfordirol, fandaliaeth, difrod gan anifeiliaid ar hyn o bryd
Byrdymor : O fewn y flwyddyn, cynlluniau datblygu hysbys, erydu arfordirol
Hirdymor : O fewn y degawd, er enghraifft oherwydd esgeulustod, erydu arfordirol, twf llystyfiant
Dibwys : Dim bygythiad i’r safle yn hysbys yn y fan a’r lle