Cymorth ynglŷn ag atodi Ffeiliau Safle
Gweler hefyd y Cyflwyniad
Atodwch unrhyw ffotograffau digidol neu gynlluniau digidol o’r safle a’r prif adeiladau arno yn sgil eich ymweliad(au).
Ychwanegwch
nifer o ffeiliau drwy ddewis y symbol
.
Math
Dewiswch fath o atodiad o’r gwymplen. Os dewiswch chi Cynllun wedi’i fesur, rhowch raddfa’r cynllun yn y maes a fydd i’w weld wedyn.
Atodiad
Cliciwch ar ‘pori’ i atodi ffotograffau neu gynlluniau safle digidol, neu er mwyn tynnu lluniau a’u hatodi ar y safle os oes gennych chi signal. Caiff y rhain eu cyflwyno ar y cyd �’ch ffurflen gofnodi ar-lein. Rhowch hyd at 5 ffotograff a’ch sganiau ar ffurf ffeiliau JPG neu PDF cydraniad uchel, hyd at uchafswm maint o 10 MB.
Rhagor o ganllawiau ar dynnu ffotograffau.
Capsiwn
Arfer da yw nodi’r rhif oddi ar eich camera cyn gynted ag y byddwch wedi tynnu ffotograff, gan ysgrifennu capsiwn byr i ddisgrifio’r hyn sydd yn y llun. Er enghraifft: Pen de-ddwyreiniol ffatri 1, wedi’i dynnu o adeilad 3 yn wynebu’r G.
Cadwch y ffotograffau, gan roi rhif unigol i bob ffeil yn y gyfres, a hynny ar �l enw’r safle ac o flaen estyniad i ddynodi fformat y ffeil. Rhowch hyn yn y maes capsiwn. Er enghraifft: Enw’r safle_nodwedd_dyddiad_01.jpg, Enw’r safle_nodwedd_dyddiad _02.jpg … hyd at … Enw’r safle_nodwedd_dyddiad_05.jpg.