1914-1918: Treftadaeth y rhyfel yng Nghymru
Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith helaeth ledled Cymru – ni chafodd unman lonydd wrth i’r wlad gyfan baratoi i gyfrannu at ymdrech y rhyfel.
Gan mlynedd wedyn mae’r genhedlaeth a fu’n dyst iddo bron â darfod, a’r hyn sydd ar ôl yw’r gweddillion ffisegol – adeiladau, tirluniau ac arteffactau. Mae gan archaeoleg ran bwysig i’w chwarae o ran deall a chofio’r rhyfel byd-eang hwn.
Yr effaith ar y tirwedd
Roedd effaith y rhyfel yn aruthrol. Roedd ymdrech recriwtio enfawr, a gofyn symud a hyfforddi dynion o bob rhan o’r wlad. recriwtio màs, cynnull a hyfforddi o ddynion ar draws y wlad. Cafodd diwydiannau eu haddasu neu eu ehangu, a gwelwyd newidiadau mawr mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth a gafodd effaith enbyd ar ffabrig y tirwedd drefol a gwledig ar draws Gymru.
Archaeoleg yr Ymgyrch Gartref
Astudiaeth o gymdeithasau y gorffennol trwy edrych ar ddiwylliant materol yw archaeoleg. Mae hyn yn cynnwys tirweddau, adeiladau, strwythurau, gwrthgloddiau, nodweddion claddedig, areffactau a dogfennau. Gall astudio yr olion hyn ein helpu i ddeall effaith y rhyfel ar fywydau pob dydd pobl Cymru.
Mae Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’r Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru yn ymchwilio i’r effaith y cafodd y rhyfel ar ein tirluniau, adeiladau a strwythurau.
Sut i gymryd rhan
Yn ystod blynyddoedd y canmlwyddiant gallwch ymuno â phrosiectau ledled Cymru i ganfod, adnabod a deall safleoedd sy’n ymwneud â’r ymateb milwrol neu’r ymateb sifil i ryfel.
Mae Cyngor Archaeoleg Prydain wedi datblygu pecyn cymorth cofnodi a chanllawiau ar-lein i’ch helpu i gofnodi gweddillion y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Cofrestrwch yma er mwyn dod o hyd i’r app cofnodi neu i lwytho ffurflen gofnodi electroneg ar gyfer Cymru i lawr, ac anfonwch eich canfyddiadau o’r safleoedd i’r Ymddiriedolaethau Archaeolegol.
Mae Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’r Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru i gyd yn cydlynu amrediad o weithgareddau a digwyddiadau ynglŷn â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Os hoffech gymryd rhan neu os hoffech wybod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Archaeolegol leol i gael rhagor o wybodaeth.
Cysylltiadau yng Nghymru
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys
Clwyd-Powys Archaeological Trust
www.cpat.org.uk 01938 553670
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Dyfed Archaeological Trust
www.dyfedarchaeology.org.uk 01558 823121
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent
Glamorgan-Gwent Archaeological Trust
www.ggat.org.uk 01792 655208
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Gwynedd Archaeological Trust
www.heneb.co.uk 01248 352535
CBA Cymru
www.archaeologyUK.org/cbawales
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
www.cbhc.gov.uk
www.rcahmw.gov.uk 01970 621200
Cyngor Archaeoleg Prydain
www.homefrontlegacy.org.uk
Cymru’n Cofio Wales Remembers
www.cymruncofio.org www.walesremembers.org




