Gofalwch eich bod wedi paratoi’n dda cyn ichi fynd ar y safle, drwy feddwl am ddiogelwch ar y safle.
Mynediad i’r safle a caniatâd
Cofiwch: os ydych yn mynd ar safle ar dir preifat, mae’n rhaid ichi ofyn caniatâd gan y perchennog a/neu’r deiliad. Mae’r gofynion cyfreithiol yn amrywio ar draws y Deyrnas Unedig ac mae gan rai safleoedd fynediad cyhoeddus a phreifat. Holwch cyn ichi ymweld.
Os cewch chi ganiatâd, cadwch at Reolau Cefn Gwlad. I gael canllawiau ar reolau cefn gwlad, ewch i:
Iechyd a Diogelwch ar y safle
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cymryd camau iechyd a diogelwch wrth ichi gofnodi safle. Sylwch nad yw unrhyw anawsterau sy’n codi o ganlyniad i ddefnyddio’r ffurflen gofnodi yn gyfrifoldeb i Gyngor Archaeoleg Prydain na’i bartneriaid yn y prosiect. Drwy gofrestru ar ein gwefan a defnyddio’n pecyn cymorth cofnodi yn eich prosiect, rydych yn cydnabod mai eich cyfrifoldeb chi yw mynediad ac iechyd a diogelwch.
Cyn cychwyn allan, mae’n werth edrych ar ffynonellau ar-lein i gael cyngor am y tywydd yn lleol ac am unrhyw fesurau priodol eraill i sicrhau eich bod yn ddiogel.
Cymerwch ofal wrth weithio yn agos at adeiladu neu ffosydd dadfeiliedig. Yn achos adeiladau ansad, gallech osgoi dod i gyffyrddiad â nhw wrth eu cofnodi drwy ddefnyddio techneg briodol, megis ffotograffiaeth. Mae’n bosibl y gallai hyd yn oed gweddillion isel symud neu gwympo os byddwch yn cerdded arnyn nhw, felly cymerwch ofal a byddwch yn gall wrth fynd at argloddiau ac adeiladau.
Asesiad risg
Cyn gwneud eich gwaith cofnodi ar y safle, mae’n bosibl yr hoffech wneud asesiad risg, yn enwedig os ydych yn mynd â grŵp o wirfoddolwyr i’r safle. Mae enghraifft o ffurflen asesu risg wedi’i darparu.




