Eich Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER) neu wasanaeth eich Cofnod Safleoedd a Henebion (SMR) yn lleol yw’r man cychwyn er mwyn cael rhagor o wybodaeth am safleoedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn eich ardal chi.
Beth yw Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol?
Mae’r Cofnodion Safleoedd a Henebion (SMRs) a’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol (HERs) ehangach yn cynnwys safleoedd a darganfyddiadau hanesyddol ac archaeolegol hysbys mewn awdurdodau sirol neu unedol. Fe’u cyrchir ar-lein fel arfer ac yn aml drwy ddefnyddio system sydd wedi’i seilio ar fapiau, ac mae’r cofnodion yn ymgorffori ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys awyrluniau, deunydd cyhoeddedig ac anghyhoeddedig, a mapiau hanesyddol a modern.
Gall gwasanaethau’r HER gynnwys:
- cynnal a gwella’r cofnod o safleoedd hanesyddol ac archaeolegol
- rhedeg gwasanaeth gwybodaeth ac ymchwil cyhoeddus
- rhoi gwybodaeth i archaeolegwyr ac ymgynghorwyr cynllunio, cyrff llywodraeth megis English Heritage, cyrff cadwraeth a thwristiaeth, y cyfleustodau cyhoeddus, grwpiau ymchwil lleol, tirfeddianwyr a datblygwyr.
Mae gwasanaethau sydd ag adnoddau estyn allan hefyd yn hybu archaeoleg leol yn y gymuned drwy ddigwyddiadau a gwaith ymgysylltu.
Mae gan y pedair Ymddiriedolaeth Archaeoleg yng Nghymru Gofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER) yr un sy’n cynnwys safleoedd, gwrthrychau a thirluniau archaeolegol sydd wedi’u cofnodi yng Nghymru. Mae pob HER yng Nghymru’n cynnwys cronfa ddata ddigidol a chasgliad cyfeirio o bapurau ategol megis mapiau ac awyrluniau. I weld y cofnodion ar-lein, ewch i wefan Archwilio.
Yn Lloegr, gallwch weld detholiad o Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol neu Gofnodion Safleoedd a Henebion ar yr Heritage Gateway, neu eu cyrchu drwy gyfrwng yr awdurdodau lleol. Yn yr Alban, mae’r cofnodion hyn ar gael i’w gweld ar Pastmap a Canmore.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae cofnodion 16,000 o safleoedd archaeolegol a henebion yn cael eu cadw ar Gofnod Safleoedd a Henebion Gogledd Iwerddon, sy’n cael ei gynnal gan Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon.
Sut gallan nhw helpu?
Gall eich HER neu’ch SMR ddweud pa safleoedd sydd wedi’u cofnodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol neu’r Cofnod Henebion Cenedlaethol a’r archifau lleol; hefyd, a yw safle penodol eisoes wedi’i restru neu wedi’i ddiogelu’n statudol.
Mae’n bosibl y gallan nhw roi gwybod am gofnodion y mae angen eu diweddaru neu y mae angen rhagor o fanylion ar eu cyfer yn ogystal â nodi bylchau yn eu data yr hoffech chi ymchwilio iddyn nhw a’u cofnodi.
Mae’n bosibl hefyd y gall gwasanaethau sydd â rôl ymgysylltu cyhoeddus eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau lleol sydd eisoes yn rhedeg prosiectau Rhyfel Byd Cyntaf, neu roi cyngor ichi am sefydlu’ch grŵp eich hun.
Sut mae dod o hyd i’r gwasanaeth lleol?
Fel arfer, byddwch yn cysylltu â’ch gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol neu’ch gwasanaeth Safleoedd a Henebion yn lleol drwy’r Ymddiriedolaethau Archaeoleg yng Nghymru, drwy’r awdurdod lleol yn Lloegr a’r Alban, neu drwy Swyddfa Cofnod Safleoedd a Henebion Gogledd Iwerddon yn Belfast.
Gallwch weld manylion llawer o wasanaethau lleol yn Lloegr ar yr Heritage Gateway ac ar draws y Deyrnas Unedig drwy edrych ar y cyfarwyddiadur cynhwysfawr ar wefan Cymdeithas Swyddogion Archaeoleg Llywodraeth Leol.
Yng Nghymru, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Archaeoleg agosaf.
Pam mae’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yn bwysig?
Drwy gyflwyno’ch cofnod o’ch safle i’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol drwy brosiect Treftadaeth yr Ymgyrch Gartref, byddwch yn cadw’ch gwybodaeth leol ac yn ei hagor i bawb.
Bydd eich disgrifiad o’r safle, eich ffotograffau a’ch cynlluniau’n cofnodi’r gweddillion sydd wedi para, a bydd unrhyw dystiolaeth welwch chi o’r bobl a’r digwyddiadau fu’n gysylltiedig â’r safle yn dod â’i storïau’n fyw. Bydd eich data yn bwydo’r ymchwil yn y dyfodol ac yn gwella’n dealltwriaeth ni o effaith y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gallai’ch data gael ei ddefnyddio hefyd i fwydo penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol ynglŷn â’r safle a’i amgylchoedd, a chael dylanwad pendant ar ddynodiadau neu restriadau gan y ddau Gomisiwn Brenhinol yng Nghymru a’r Alban neu gan English Heritage neu Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon.
Ymolchi yn y gwersyll. Drwy garedigrwydd Roger JC Thomas




