Drwy ddefnyddio’n pecyn cymorth ar-lein a’r adnoddau ar y wefan yma, gall pawb helpu i ymchwilio i’w safleoedd a’u strwythurau lleol a’u cofnodi a helpu i ddiogelu gweddillion y Rhyfel Byd Cyntaf sydd wedi goroesi yma ym Mhrydain.
Mae ymchwilio i’r gweddillion hyn yn dod â chi i gysylltiad agosach â’r hyn y bu’n teuluoedd ni’n byw drwyddo, a sut y cafodd eu bywydau nhw a’n tirlun ni eu llunio gan y Rhyfel Mawr.
Mae gan y wefan yma ddulliau, canllawiau ac adnoddau ichi wneud gwaith cofnodi archaeolegol a chyflwyno’ch data i’ch Cofnod Amgylchedd Hanesyddol lleol a’r Cofnodion Henebion Cenedlaethol i ychwanegu at ein gwybodaeth ac i fwydo gwaith yn y dyfodol i ddiogelu safleoedd.
Defnyddiwch y wefan yma:
- i gael y newyddion diweddaraf am safleoedd a allai fod wedi’u cofnodi drwy’r prosiect ar ein map ar-lein a’n horiel Flickr
i ddilyn y prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannu’ch ymchwil gydag eraill
- i lawrlwytho’n canllaw cam-wrth-gam i gofnodi safleoedd y Rhyfel Byd Cyntaf
- er mwyn cofrestru i ddefnyddio’n pecyn cymorth cofnodi
- i gyrchu adnoddau ar-lein, arferion da, a dolenni defnyddiol
Ar ôl ichi gyflwyno’ch ffurflen gofnodi i’r prosiect, bydd eich disgrifiad o’r safle, eich ffotograffau a’ch data yn ymddangos ar ein map ar-lein o’r prosiectau ar draws y Deyrnas Unedig.
Gallwch ychwanegu ffotograff o’r safle i’n horiel Flickr hefyd.
Rhagor o wybodaeth am ddechrau ar eich prosiect cofnodi.




