Efallai yr hoffech edrych ar y canllawiau unigol ynghylch hawlfraint pob Cofnod Amgylchedd Hanesyddol neu Gofnod Safleoedd a Henebion lleol cyn ichi gyflwyno’ch ffurflen gofnodi.
- Yng Nghymru, ewch i: www.archwilio.org.uk
- Yn Lloegr a’r Alban, ewch i: www.heritagegateway.org.uk/Gateway/CHR
- Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i: http://apps.ehsni.gov.uk/ambit/Disclaimer.aspx
Mae’n bosibl hefyd y byddwch am edrych ar ganllawiau hawlfraint y Cofnodion Henebion Cenedlaethol lle gallai’ch data cofnodi o’r safle gael ei gyhoeddi hefyd. Er enghraifft, yn yr Alban, bydd data cofnodi o brosiect Treftadaeth yr Ymgyrch Gartref yn cael ei archifo gan Gomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban.
- Yng Nghymru, ewch i: www.rcahmw.gov.uk/HI/ENG/Search+Records/Standards
- Yn Lloegr, ewch i: www.english-heritage.org.uk/professional/archives-and-collections/nmr/enquiry-and-research-services/terms-and-conditions
- Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i: www.doeni.gov.uk/niea/built-home/recording/accessing_mbr/conditions_of_entry.htm
- Yn yr Alban, ewch i: www.rcahms.gov.uk/terms-and-conditions.html
Wrth ichi gyflwyno gwybodaeth i’ch Cofnod Amgylchedd Hanesyddol neu’ch Cofnod Safleoedd a Henebion, sylwch y bydd yr wybodaeth honno yn y bau gyhoeddus ac yn cael ei defnyddio at ddibenion dilys yn unol ag amodau defnyddio’r Cofnod perthnasol. Os yw natur y safle yn sensitif, gall gwybodaeth am ei leoliad gael ei gyfyngu pan drefnir bod y data ar gael.
Os oes caniatâd penodol o dan y darpariaethau ynglŷn â hawlfraint sy’n llywodraethu’r HER unigol wedi’i sicrhau er mwyn lledaenu data’r HER i drydydd partïon drwy gyfrwng cyhoeddiadau, adroddiadau neu draethodau, bydd y gydnabyddiaeth ddyledus yn cael ei rhoi ynglŷn â defnyddio’r HER ac i ddechreuwyr y deunydd.
Bydd data a gyflwynir i brosiect Treftadaeth yr Ymgyrch Gartref yn cael ei gadw ar gronfa ddata’r prosiect ac yn cael ei ddefnyddio gan Gyngor Archaeoleg Prydain a phartneriaid y prosiect at ddibenion anfasnachol i hybu’r prosiect. Mae unigolion a grwpiau sy’n cyflwyno data cofnodi yn rhydd, wrth gwrs, i ddefnyddio’u data fel y mynnant.
Bydd hawlfraint ffotograffau o’r safle a atodir i’ch cofnod yn perthyn i chi ond drwy gyflwyno’r rhain gyda’ch ffurflen gofnodi, rydych yn rhoi caniatâd i’r rhain gael eu cadw a’u darparu gan y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol perthnasol ac, os yw’n briodol, gan Archwilio, archif English Heritage a’r Cofnodion Henebion Cenedlaethol yng Nghymru a’r Alban. Holwch eich HER lleol i gael eu canllawiau unigol nhw ynglŷn â hawlfraint.
Gweler telerau ac amodau Treftadaeth Ymgyrch Gartref 1914-18.
Ffynonellau perthynol
Os byddwch yn atodi dogfennau, ffotograffau a gwybodaeth gyhoeddedig berthynol gyda’ch data cofnodi, gwnewch yn siŵr nad yw’r rhain wedi’u diogelu gan hawlfraint a gofalwch gynnwys cyfeiriadau llawn at ffynonellau archif.
Agor ffosydd ymarfer yng Ngwersyll Larkhill, Gwastadedd Caersallog. Drwy garedigrwydd Cofeb Ryfel Awstralia




