Mae Treftadaeth Ffisegol y Rhyfel Byd Cyntaf a’i Ymgyrch Gartref 1914-18 yn brosiect partneriaeth ledled y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei gydlynu gan Gyngor Archaeoleg Prydain, gyda chyllid gan Cadw, English Heritage a Historic Scotland.
Gyda’n gilydd rydyn ni’n galluogi cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig i gadw eu gwybodaeth leol ac i wella’r ddealltwriaeth yn y dyfodol ynglŷn ag effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar dirlun ac ymwybyddiaeth Prydain.
Mae’r pecyn adnoddau arfaethedig wedi’i seilio ar ddeunyddiau a ddatblygwyd drwy astudiaeth beilot naw mis a ariannwyd gan English Heritage, Legacies of the Home Front, o dan arweiniad Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerefrog yn 2012 a ddaeth o hyd i dros 110 o safleoedd yn Swydd Stafford a gwaelod Dyffryn Lea, ychydig i’r gogledd o Lundain.
Ar draws y Deyrnas Unedig
Mae Cyngor Archaeoleg Prydain yn cydweithio â phartneriaid ar draws y Deyrnas Unedig i annog pawb sydd â diddordeb yn y Rhyfel Byd Cyntaf i gofnodi safleoedd, strwythurau ac adeiladau lleol. Mae pecyn cymorth i’r Deyrnas Unedig wedi’i ddatblygu ar y cyd ag Ymddiriedolaethau Archaeoleg Cymru, English Heritage a Chymdeithas Swyddogion Archaeoleg Llywodraeth Leol (ALGAO UK) ynghyd â phartneriaid eraill.
Yn Lloegr bydd y prosiect yn bwydo arsylwadau yn y maes i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol yr awdurdodau lleol a’r Cofnodion Henebion Cenedlaethol perthnasol ar wefan y Porth Treftadaeth, gan ehangu’n gwybodaeth a dylanwadu ar amddiffyniad y gweddillion yn y dyfodol.
Gogledd Iwerddon
Mae Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon a Phrifysgol y Frenhines, Belfast (gyda chyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau) yn defnyddio’r pecyn cymorth cofnodi gyda grwpiau a gwirfoddolwyr lleol i’w hannog i gymryd rhan yn ehangach yn ymchwil ac archaeoleg y Rhyfel Byd Cyntaf ac i ychwanegu at y safleoedd a’r adeiladau sydd wedi’u cofnodi yng Nghofnod Safleoedd a Henebion Gogledd Iwerddon.
Yr Alban
Mae Historic Scotland, Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban (RCAHMS), Archaeology Scotland ac ALGAO yr Alban yn bwrw ymlaen â’r prosiect yn yr Alban er mwyn annog pobl i gymryd rhan wrth gofnodi’r Rhyfel Byd Cyntaf ac er mwyn gwella’r cofnodion a’r archifau ar gyfer y Canmlwyddiant ac wedyn.
Cymru
Yng Nghymru, gyda chyllid gan Cadw, mae Ymddiriedolaethau Archaeoleg Cymru yn cydlynu amryw o brosiectau sy’n edrych ar weddillion ffisegol y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru hefyd yn cyfrannu at yr ymchwil werthfawr yma ac yn annog gwirfoddolwyr i nodi a chofnodi safleoedd a diweddaru cofnodion â gwybodaeth leol newydd.
Cyngor Archaeoleg Prydain (CBA)
Ers bron 70 mlynedd mae Cyngor Archaeoleg Prydain, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel elusen addysgol, wedi bod yn hybu archaeoleg i bawb a’r Cyngor hefyd yw’r prif lais ar gyfer diddordeb cyhoeddus mewn archaeoleg. Mae’r Cyngor yn weithgar yn San Steffan ac ymysg grwpiau cymunedol ar lawr gwlad, ac mae’n cydweithio â’r sector gwirfoddol ac ar draws y gymuned dreftadaeth i ddiogelu amgylchedd hanesyddol y Deyrnas Unedig a darbwyllo penderfynwyr bod archaeoleg yn cyfrif. Cewch ragor o fanylion am ychwanegu’ch llais chi yn www.archaeologyUK.org


















