Helpwch i warchod ein gwybodaeth o weddillion y Rhyfel Byd Cyntaf drwy ymchwilio i safleoedd lleol yr Ymgyrch Gartref a’u cofnodi, a chyflwyno’ch data i’ch Cofnod Amgylchedd Hanesyddol lleol ar-lein drwy ddefnyddio’n pecyn cymorth cofnodi hwylus.
Adnoddau a chanllawiau
I’ch helpu i gynllunio’ch prosiect cofnodi a dewis safle, cymerwch olwg ar ein hadrannau ynghylch dechrau arni ac adnoddau a’n Canllaw i Gofnodi Safleoedd ac Adeiladau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Cofrestrwch eich prosiect cofnodi
Pan fyddwch yn barod i ddechrau cofnodi, cofrestrwch gyda’r prosiect ar y wefan yma i weld ein ffurflen gofnodi symudol ac ar-lein a thesawrws o dermau safleoedd a deunyddiau adeiladu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ffurflen gofnodi ar gael hefyd ar ffurf electronig neu ar bapur, ac mae fersiynau ar gael ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban.
Ar-lein ynteu ar y safle
Llenwch ein ffurflen gofnodi ar-lein neu ar y safle drwy gyfrwng ein hap cofnodi symudol i ffôn clyfar neu lechen. Mae’r dechnoleg fapio NGR ddiweddaraf, a’r gallu i ddewis termau a dyddiadau ac atodi ffeiliau fel rhan o’r ap yn cyflymu’r broses gofnodi.
Os yw’r signal 3G yn wael, gallwch gadw’ch ffurflen yn eich dyfais cyn ichi gychwyn allan i’w llenwi er nad ydych ar-lein. Gallwch ei chyflwyno wedyn pan fydd eich signal neu WiFi yn dychwelyd. Fel arall, lawrlwythwch y fersiwn Word neu PDF a’i argraffu, a chopïwch y manylion i’r ffurflen ar-lein wedyn.
Cyflwyno’n uniongyrchol
Ar ôl ichi ddewis ‘cyflwyno’, bydd y data ar eich ffurflen ar-lein ar gael i’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol neu’r Cofnod Safleoedd a Henebion lleol. Cewch gydnabyddiaeth a chopi o’ch data drwy’r e-bost.
Mapiwch eich safle
Bydd eich cofnod o’r safle i’w weld fel ‘pin map’ ar y map ar-lein cyhoeddus o safleoedd a phrosiectau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar y wefan yma. Cliciwch ar y pin map coch i weld eich data a mân-luniau o unrhyw ffotograffau neu ddogfennau rydych chi wedi’u hatodi.
Termau safleoedd y Rhyfel Byd Cyntaf
Gallwch edrych ar ein rhestr o dermau safleoedd a deunyddiau adeiladu’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy ddefnyddio’r cwymplenni ar ein ffurflen ar-lein. Mae termau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar gael hefyd ar-lein ar wefan Focus on Information Standards in Heritage.
Cofrestrwch
Ewch i’n tudalen Cofrestru i ddechrau’ch prosiect.




