Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’ch preifatrwydd. Dim ond yn gyfreithlon (yn unol â Deddf Diogelu Data 1998) y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth amdanoch y byddwn yn ei chasglu.
Fyddwn ni ddim yn rhoi’ch gwybodaeth i unrhyw drydydd parti, heblaw’n partneriaid yn y prosiect fel y maen nhw wedi’u rhestru ar ein tudalen ynghylch partneriaid y prosiect ar ein gwefan at ddibenion anfasnachol er mwyn hybu’r prosiect ac er mwyn caniatáu i’ch data cofnodi gael ei gyflwyno i’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol neu’r Cofnod Safleoedd a Henebion ac i’r Cofnod Henebion Cenedlaethol perthnasol, sef Coflein yng Nghymru, Archif English Heritage yn Lloegr, Cofnod Safleoedd a Henebion Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon a Canmore yn yr Alban.
Gallwch wirio’r wybodaeth amdanoch sydd gennym drwy anfon neges e-bost aton ni. Os gwelwch chi unrhyw beth anghywir fe fyddwn yn ei ddileu neu’n ei gywiro’n ddi-oed.




