FFOSYDD YMARFER
Y gred yn gyffredinol yw bod milwyr heb fawr o hyfforddiant wedi’u haberthu yn rhyfel y ffosydd yn erbyn yr Almaen ar Ffrynt y Gorllewin. Ond yn fwy ac yn fwy mae tystiolaeth archaeolegol yn Lloegr, ar ffurf ffosydd ymarfer manwl, modelau hyfforddi, fel model Messines yn Cannock Chase ac adluniadau maint llawn o linellau’r Almaenwyr, yn dangos ymgais gan y fyddin i roi hyfforddiant realistig i’r milwyr yn yr un modd yn union â hyfforddiant cyn y frwydr heddiw. Er gwaethaf y paratoadau hyn, sicrhaodd grym angheuol y magnelau a’r gynnau peiriant fod miliynau wedi’u lladd ar faes y gad.
Systemau ffosydd ymarfer
Mae gweddillion ffosydd ymarfer, lle bu miloedd o filwyr yn hyfforddi cyn ymadael am Ffrynt y Gorllewin, wedi goroesi ledled y Deyrnas Unedig, ar frig clogwyni a bryniau, mewn coedwigoedd ac mewn caeau. Mae llawer yn cael eu datgelu mewn awyrluniau neu mewn hen gynlluniau a ffotograffau. Mae eraill wedi’u gordyfu ar goetir a gweundir a’u diben wedi mynd yn angof er bod modd eu hadnabod o weld llinellau igam-ogam arbennig blaen y gad.
System Ffosydd Ymarfer Penalun, Sir Benfro © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Cewch ragor o wybodaeth am baratoadau rhyfel Prydain yn Conservation Bulletin English Heritage ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf.




