MODEL O DIRLUN
Yn ddiweddar, bu gwirfoddolwyr yn Cannock Chase o dan arweiniad No Man’s Land, sef y Grŵp Ewropeaidd dros Archaeoleg y Rhyfel Mawr, yn cloddio’r unig fodel o dirlun sy’n hysbys o gyfnod y Rhyfel Mawr yn y Deyrnas Unedig. Cafodd ei adeiladu gan garcharorion rhyfel o’r Almaen a dynion o 5ed Bataliwn Brigâd Reifflau Seland Newydd ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’w pencadlys yng ngwersyll y fyddin yn Brocton yn Swydd Stafford yn gynnar ym 1918.
Cannock Chase yw safle dau o’r gwersylloedd byddin mwyaf a godwyd ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914. Y model o dref Messines yng Ngwlad Belg yw’r unig fodel o dirlun sy’n hysbys o gyfnod y Rhyfel Mawr yn y Deyrnas Unedig ac mae’n un o lond llaw yn unig sydd wedi goroesi yng ngogledd Ewrop o’r cyfnod hwnnw. Mae’n dangos sector Seland Newydd o faes y gad ym 1917.
I hyfforddi milwyr y bwriadwyd y model ond fe allai hefyd fod â diben coffáu. Mae ffyrdd, traciau, systemau rheilffyrdd (mewn ffosydd ac ar y tir), pob math o systemau ffosydd (gan gynnwys ffosydd ymladd a ffosydd cyfathrebu), adeiladau a ffermdai, efallai blocdai a safleoedd gynnau peiriant i gyd wedi’u hail-greu’n ofalus. Datgelodd y gwaith cloddio elfen o linellau Corfflu Anzac II hefyd.
Ar ôl cael ei gofnodi, mae’r model wedi’i ailgladdu bellach.
Model Messines ar ôl ei adeiladu ym 1918. Drwy garedigrwydd Stephen Dean
Ffynhonnell: Stephen Dean, Prif Archaeolegydd, Cyngor Sir Swydd Stafford
www.staffordshiregreatwar.com/great-war-story/cannock-chase-training-camps/




