I nodi Canmlwyddiant 2014-18, mae cyrff treftadaeth, amgueddfeydd, awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol yn cynnal prosiectau a rhaglenni sy’n gysylltiedig â safleoedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
- Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n cynnig rhaglen grantiau Y Rhyfel Byd Cyntaf: cynt ac wedyn o rhwng £3,000 a £10,000 i gymunedau nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Dilynwch nhw ar Twitter #thenandnow
- Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Imperial War Museum wedi creu rhwydwaith a gwefan Centenary Partnership i dynnu sylw at ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol sy’n edrych ar fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
- Dilynwch Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ar Facebook ac ar Twitter @IWM_Centenary
- Cyfrannwch at osodiad y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Imperial War Museum drwy ‘gynnau golau’ i gofio’r bobl a fu farw.
- Dilynwch y newyddion diweddaraf ar wefan Centenary News.
- Chwiliwch am gofnodion sydd wedi’u digideiddio i’w rhyddhau o’r newydd, digwyddiadau ar-lein ac ar safleoedd ac adnoddau addysg ym mhorth Rhyfel Byd Cyntaf yr Archifau Gwladol.
- Dilynwch y trafodaethau a’r newyddion diweddaraf am yr Ymgyrch Gartref yn y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #WWI a #WW1AtHome
- Darllenwch flog iWonder Dan Snow i’r BBC ar Sut y llwyddodd cynifer o filwyr i fyw drwy ryfel y ffosydd?
- Mae’r BBC wedi creu partneriaeth â’r Imperial War Museum a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i lansio World War One at Home sef casgliad o storïau am sut yr effeithiodd Ymgyrch Gartref y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobl a lleoedd ym Mhrydain ac Iwerddon.
- Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am dreftadaeth ffisegol yr Ymgyrch Gartref drwy lawrlwytho Conservation Bulletin 71 English Heritage am y Rhyfel Byd Cyntaf.
- Mynnwch ragor o wybodaeth am rôl allweddol menywod ym mlog Rhwydwaith Hanes y Menywod am y Rhyfel Byd Cyntaf.
Prosiectau
Yng Nghymru, gyda chyllid gan Cadw, mae Ymddiriedolaethau Archaeoleg Cymru wrthi’n cydlynu amryw o brosiectau sy’n ymchwilio i weddillion ffisegol y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru hefyd yn cyfrannu at yr ymchwil werthfawr yma.
Mae Historic Scotland wedi cynnal archwiliad o’r holl safleoedd sydd wedi’u dynodi ar hyn o bryd ac maen nhw’n ystyried dynodi safleoedd ac adeiladau newydd sydd wedi goroesi, gan gynnwys Ardal Forol Warchodedig newydd yn Scapa Flow, a fyddai’n cynnwys y saith llongddrylliad sydd wedi goroesi o Lynges Môr Mawr yr Almaen.
I gasglu a lledaenu gwybodaeth am Ymgyrch Gartref ac Ymgyrch Filwrol yr Alban, mae canolfan hanes y Rhyfel Byd Cyntaf wedi’i sefydlu yn Llyfrgell Ganolog Caeredin, sy’n gysylltiedig â phrosiect Rhyfel yr Alban.
Mae’r Ymddiriedolaeth Meysydd Brwydrau yn olrhain llwybrau mwy na 100 o gyrchoedd bomio awyr a lansiwyd gan Zeppelins ac awyrennau, yn Llundain yn bennaf, yn eu prosiect ar y Blitz Mawr.
Mae Ysgol Hanes Prifysgol Caint yn cynllunio prosiect i weithio gyda phobl ifanc yn yr ysgolion i ymchwilio i hanes y Rhyfel Byd Cyntaf ar eu carreg drws a datblygu deunyddiau i’w cynnwys yng Nghofnod Amgylchedd Hanesyddol Caint.
Mae prosiect Treftadaeth Rhyfel Prifysgol Leeds yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a mudiadau yn Leeds, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i edrych ar dreftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Grŵp Canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn Wiltshire yn ceisio dod â grwpiau hanes ac archaeoleg, cynghorau trefi a phlwyfi, grwpiau theatr, ysgolion, mudiadau ieuenctid, mudiadau cynfilwyr, corau, mudiadau celf ac eraill at ei gilydd yn lleol i gofio’r canmlwyddiant ledled y sir.
Mae’r Rhyfel Mawr yn Swydd Stafford wedi lansio llwybr sy’n canolbwyntio ar wersylloedd hyfforddiant milwrol Cannock Chase, y Goedardd Goffa Genedlaethol ac Amgueddfa Catrawd Swydd Stafford. Ewch i weld eu harddangosfa a’u digwyddiadau teuluol a’u pecynnau adnoddau i ysgolion a chyfleoedd i gloddio.
Mae Ymddiriedolaeth y Cofebau Rhyfel yn rhedeg cynlluniau grant at drwsio a chadw cofebau rhyfel o unrhyw ddyddiad, unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac mae arian ychwanegol ar gael ar hyn o bryd oherwydd y canmlwyddiant. Mae ganddyn nhw ystod gynhwysfawr o gyngor hefyd am faterion cofebau rhyfel gan gynnwys cadwraeth, rheolaeth a thirlunio. Mae’r wefan War Memorials Online yn annog y cyhoedd i helpu i greu gwell dealltwriaeth o gyflwr cofebau rhyfel.




