Iechyd a diogelwch
Eich cyfrifoldeb chi yw cymryd camau o ran iechyd a diogelwch wrth ichi gofnodi safle. Sylwch nad yw Cyngor Archaeoleg Prydain na’i bartneriaid yn y prosiect yn gyfrifol am unrhyw faterion a all godi yn sgil y ffaith eich bod yn defnyddio’r ffurflen gofnodi. Drwy gofrestru ar ein gwefan a defnyddio’n pecyn cymorth cofnodi yn eich prosiect, rydych yn cydnabod mai eich cyfrifoldeb chi yw mynediad ac iechyd a diogelwch.
Defnyddio data gan y cofnodion archaeolegol lleol a chenedlaethol
Wrth ichi gyflwyno gwybodaeth i’ch Cofnod Amgylchedd Hanesyddol neu’ch Cofnod Safleoedd a Henebion chi, sylwch y bydd yr wybodaeth honno yn y bau gyhoeddus ac yn cael ei defnyddio at ddibenion dilys yn unol ag amodau defnyddio’r Cofnod perthnasol. Os yw natur y safle yn sensitif, gall gwybodaeth am ei leoliad gael ei gyfyngu pan drefnir bod y data ar gael.
Os oes caniatâd penodol o dan y darpariaethau ynglŷn â hawlfraint sy’n llywodraethu’r HER unigol wedi’i sicrhau er mwyn lledaenu data’r HER i drydydd partïon drwy gyfrwng cyhoeddiadau, adroddiadau neu draethodau, bydd y gydnabyddiaeth ddyledus yn cael ei rhoi ynglŷn â defnyddio’r HER ac i ddechreuwyr y deunydd.
Efallai yr hoffech edrych ar y canllawiau unigol ynghylch hawlfraint pob Cofnod Amgylchedd Hanesyddol neu Gofnod Safleoedd a Henebion lleol cyn ichi gyflwyno’ch ffurflen gofnodi
Yng Nghymru, ewch i: www.archwilio.org.uk
Yn Lloegr a’r Alban, ewch i: www.heritagegateway.org.uk/Gateway/CHR
Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i: http://apps.ehsni.gov.uk/ambit/Disclaimer.aspx
Gall data gael ei gyhoeddi a/neu ei archifo yn y Cofnod Henebion Cenedlaethol yng Nghymru (Coflein), yr Alban (Canmore), Gogledd Iwerddon (NISMR), neu Loegr (Pastscape) yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan yr asiantaethau cenedlaethol dal sylw.
Yng Nghymru, ewch i: www.rcahmw.gov.uk/HI/ENG/Search+Records/Standards
Yn Lloegr, ewch i: www.english-heritage.org.uk/professional/archives-and-collections/nmr/enquiry-and-research-services/terms-and-conditions
Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i: www.doeni.gov.uk/niea/built-home/recording/accessing_mbr/conditions_of_entry.htm
Yn yr Alban, ewch i: www.rcahms.gov.uk/terms-and-conditions.html
Defnyddio data yn y prosiect
Mae data’n cael ei gyflwyno i brosiect Treftadaeth yr Ymgyrch Gartref ar y ddealltwriaeth bod yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen hon, ac unrhyw ddeunyddiau perthynol a roddir, gan gynnwys ffotograffau, yn gallu cael eu cynnwys ar gronfa ddata prosiect yr Ymgyrch Gartref a chael eu defnyddio gan Gyngor Archaeoleg Prydain a’i bartneriaid yn y prosiect at ddibenion anfasnachol er mwyn hybu’r prosiect.
Ffotograffau
Mae’r hawlfraint dros unrhyw ffotograffau o safleoedd a gyflwynir yn perthyn i chi ond drwy gyflwyno’r rhain gyda’ch ffurflen gofnodi, rydych yn rhoi caniatâd iddyn nhw gael eu cadw a’u harddangos yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol perthnasol ac, os yw’n briodol, yn Archwilio neu yn Archif English Heritage ac yn y Cofnodion Henebion Cenedlaethol yng Nghymru a’r Alban. Holwch eich HER neu’ch SMR lleol i gael canllawiau ynglŷn â hawlfreintiau unigol.
Hawlfraint ffynonellau perthynol
Os ydych yn atodi dogfennau perthynol, ffotograffau a gwybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi gyda’ch data cofnodi, gofalwch eich bod wedi sicrhau caniatâd hawlfraint i wneud hynny a gofalwch gynnwys cyfeiriadau llawn at yr archif. I gael canllawiau, gweler ein protocolau enwi ffeiliau.




