Mae Cyngor Archaeoleg Prydain yn cydweithio ag English Heritage a phartneriaid ar draws y Deyrnas Unedig i helpu cymunedau lleol i ddod o hyd i weddillion y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhrydain a’u mapio. Gall y bobl leol helpu i gofnodi a chadw’n storïau, a’n gweddillion bregus, i’r cenedlaethau sydd i ddod.
Gan redeg o 2014 i 2018, mae prosiect Treftadaeth yr Ymgyrch Gartref yn helpu grwpiau cymunedol sy’n ymchwilio i fannau lleol sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Mawr drwy gyfrwng pecyn cymorth ar-lein a chanllawiau ynglŷn â chofnodi safleoedd, strwythurau ac adeiladau sydd wedi goroesi o amgylch Prydain.
Mae’r wybodaeth leol hon yn cael ei chyflwyno ar fap o safleoedd a phrosiectau ledled y Deyrnas Unedig, gan ein helpu i ddeall yn well dreftadaeth y Rhyfel ar ein tirlun ac ar ein hymwybyddiaeth. Mae’r data hefyd yn cael ei gyflwyno i gofnodion archaeolegol cenedlaethol a lleol y Deyrnas Unedig er mwyn bwydo penderfyniadau cynllunio a helpu i ddiogelu gweddillion y Rhyfel Byd Cyntaf i’r cenedlaethau sydd i ddod.
Mae’r hanesydd milwrol a Llywydd y CBA, Dan Snow, yn awyddus i bawb gymryd rhan: ‘Mae cymaint ar gael o hyd. Mae gwirfoddolwyr sy’n defnyddio’r pecyn cymorth cofnodi wrthi’n mapio gweddillion y Rhyfel Byd Cyntaf drwy’r Deyrnas Unedig gyfan. Mae pobl yn mynd allan i’r caeau i ganfod hen wersylloedd a ffosydd ymarfer angof, yn chwilio’r archifau lleol i weld bod ffatri leol wedi cael ei defnyddio i wneud arfau neu fod adeiladau lleol wedi’u defnyddio fel neuaddau ymarfer, ysbytai neu wersylloedd i garcharorion rhyfel. Mae treftadaeth ffisegol can mlynedd yn ôl o’n hamgylch ni ym mhobman a’n cyfrifoldeb ni yw trosglwyddo’r wybodaeth i’n disgynyddion ni.’
Arloeswyr o Drydedd Adran Awstralia yn agor galeri mwn mwynglawdd ar Wastadedd Caersallog wrth ymarfer at Frwydr Messines yn y Rhyfel Byd Cyntaf (1917) drwy garedigrwydd Cofeb Ryfel Awstralia
Beth sydd ar ôl ym Mhrydain?
Er mai yn Ewrop y digwyddodd yr ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd yr economi, y gymdeithas a’r tirlun eu gweddnewid gartref. Yn y gwaith helaeth a wnaed ddegawd yn ôl i nodi a chofnodi safleoedd drwy brosiect Defence of Britain Cyngor Archaeoleg Prydain, daeth i’r amlwg bod yna dreftadaeth ffisegol sylweddol ar dir Prydain. Mae’r gweddillion yn cynnwys adeiladau a feddiannwyd yn orfodol dros dro at y rhyfel drwy’r Ymgyrch Gartref.
Dros gyfnod y Canmlwyddiant, rydym yn annog cymunedau i ddiweddaru ac ehangu’r wybodaeth yma a’i chadw, gan greu map o safleoedd a phrosiectau sy’n agor yr wybodaeth i bawb.
Am ba dystiolaeth rydyn ni’n chwilio?
Yn ogystal â disgrifiad a ffotograffau o’r safle, rydyn ni am i bobl anfon dogfennau, mapiau, cynlluniau, ffotograffau a chardiau post hanesyddol, yn ogystal â manylion pobl a digwyddiadau a fu’n gysylltiedig â safleoedd ac adeiladau’r Ymgyrch Gartref filwrol. Bydd y prosiect hefyd yn nodi safleoedd a fu’n gysylltiedig â ‘digwyddiadau’ fel damweiniau awyren, bomio a chyrchoedd o’r môr.
Nodau’r Project
Nodau’r prosiect yw:
- dod o hyd i safleoedd newydd, a diweddaru ac ehangu’r cofnodion lleol a chenedlaethol presennol ynglŷn â’r Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn gwella’n gwybodaeth o’r dreftadaeth ffisegol ar draws y Deyrnas Unedig
- cyhoeddi data cofnodi o brosiectau cymunedol yn y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol lleol a’r Cofnodion Safleoedd a Henebion Cenedlaethol er mwyn bwydo penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol a chynyddu’r amddiffyniad i weddillion bregus
- sicrhau mwy o ymglymiad cymunedol yn archaeoleg y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhrydain yn ystod Canmlwyddiant 1914-18
- codi ymwybyddiaeth o gofnodion ac archifau a gwasanaethau lleol a chenedlaethol ynglŷn ag archaeoleg a’r amgylchedd hanesyddol
- hybu arferion da wrth gyfnewid data ac wrth gydgysylltu rhwng grwpiau cymunedol a gwasanaethau’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol
- codi proffil archaeoleg ymysg cynulleidfa ehangach yn ystod Canmlwyddiant 1914-18
- drwy gynnwys y cyhoedd yn y prosiect, dangos i benderfynwyr fod archaeoleg yn cyfrif




