Mae’n syniad da gwneud eich ymchwil gefndir a siarad â’r gwasanaeth lleol cyn ichi fynd allan i’r maes, er mwyn dod o hyd i unrhyw gofnodion presennol a chael gwybodaeth i lywio’ch ymweliad â’r safle.
Ffynonellau
Gall ymchwil i gefndir eich prosiect fod yn ddifyr iawn, naill ai drwy chwilio yn y cofnodion a’r archifau cenedlaethol a lleol ar-lein, neu drwy ymweld ag amgueddfeydd, llyfrgelloedd, swyddfeydd cofnodion sirol ac archifau lleol.
I gael ysbrydoliaeth ynghylch ymchwilio i fannau’r Ymgyrch Gartref, ewch i: www.english-heritage.org.uk/caring/first-world-war-home-front/recording-the-legacy. Gallwch chwilio hefyd ymhlith mwy na miliwn o gofnodion mewn catalogau sy’n disgrifio ffotograffau, cynlluniau a lluniadau adeiladau a safleoedd hanesyddol Lloegr yn www.englishheritagearchives.org.uk
Mae rhagor o ffynonellau, a chasgliadau prosiectau, ynglŷn â Chymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban wedi’u rhestru ar y wefan yma a gallwch weld rhestr ddefnyddiol o fudiadau ar wefan Cymdeithas Hanes Lleol Prydain. Mae nifer o brosiectau Canmlwyddiant wrthi’n creu archifau digidol, ac mae rhai o’r rhain wedi’u rhestru ar ein tudalen prosiectau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae awyrluniau’n adnoddau toreithiog o ran lleoli ac adnabod safleoedd posibl y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ffynonellau ar-lein yn cynnwys Cymru o’r Awyr,Images of England, casgliad cenedlaethol Comisiwn Brenhinol yr Alban o awyrluniau (NCAP), a Britain from Above, sef casgliad ffotograffau Aerofilms 1919-53.
Ceir toreth o adnoddau at olrhain tystiolaeth ddogfennol a phobl y gwyddys eu bod yn gysylltiedig â safleoedd y gallwch gyfeirio atyn nhw yn eich data cofnodi. Mae gan yr Archifau Gwladol yn Kew gasgliad cyfoethog o ddeunyddiau o’r Rhyfel Byd Cyntaf megis dyddiaduron rhyfel a chofnodion milwrol, ac mae’r un peth yn wir am gasgliad yr Imperial War Museum. Gallwch chwilio am bersonél milwrol nad oedden nhw’n swyddogion, gan gynnwys ffotograffau, ar wefan Ancestry.
I chwilio am erthyglau am y Rhyfel Byd Cyntaf, chwiliwch Archifau’r TimesArchif Ddigidol y Guardian a’r Observer a gwefan Rhyfel Byd Cyntaf y Llyfrgell Brydeinig.
Gall dogfennau, llyfrau a delweddau ychwanegu cyfoeth o fanylion at gofnodion archaeolegol, ond gofalwch eich bod yn cynnwys cyfeiriadau at eich ffynonellau a bod gennych ganiatâd hawlfraint i gyflwyno gweithiau sydd wedi’u cyhoeddi o’r blaen.
Chwilio yn eich Cofnod Amgylchedd Hanesyddol lleol
Edrychwch ar eich Cofnod Amgylchedd Hanesyddol neu’ch Cofnod Safleoedd a Henebion lleol er mwyn gweld a yw eich safle wedi’i gofnodi ac wedi’i ddiogelu eisoes a pha werth y gallwch ei ychwanegu at y cofnodion. Siaradwch â gwasanaeth eich HER neu’ch SMR lleol i gael cyngor a chymorth ac i gael eich cyfeirio at fylchau yn eu cofnodion a phrosiectau sydd eisoes yn bod.
Lloegr a’r Alban
I weld a oes gan safle rif HER, cysylltwch â’ch swyddog HER lleol yn Lloegr ac yn yr Alban, neu chwliwch yn y cofnodion ar-lein.
I gael rhestr lawn o wasanaethau lleol y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol/Cofnod Safleoedd a Henebion yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban, ewch i: www.heritagegateway.org.uk/gateway/chr/default.aspx neu www.algao.org.uk/membership
Cymru
I weld a yw safle wedi’i gofnodi yn un o Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru, ac i ddod o hyd i’r Prif Rif Cyfeirio (PRN), ewch i: www.archwilio.org. Gallwch chwilio Archwilio yn ôl allweddair, cyfnod, ardal cyngor cymuned neu drwy ddefnyddio’r map.
Mae gan bob un o’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeoleg yng Nghymru Gofnod Amgylchedd Hanesyddol sy’n cynnwys safleoedd, gwrthrychau a thirluniau archaeolegol yng Nghymru. Mae pob HER yng Nghymru’n cynnwys cronfa ddata ddigidol a chasgliad ategol o gyfeiriadau papur megis mapiau ac awyrluniau. Gallwch chwilio fesul cyfnod, cymuned neu drwy ddefnyddio’r map.
Gogledd Iwerddon
Built Heritage sy’n cynnal y Cofnod o Safleoedd a Henebion ar gyfer chwe sir Gogledd Iwerddon, sy’n cynnwys gwybodaeth am ryw 15,000 o safleoedd. Defnyddiwch y map ar-lein i weld mapiau lloeren a mapiau stryd Gogledd Iwerddon ac er mwyn dod o hyd i safleoedd: http://maps.osi.ie/publicviewer.
Chwilio yn y Cofnodion Henebion Cenedlaethol a’r Archifau Gwladol
Lle da i ddechrau ymchwilio i’ch safle yw edrych ar y Cofnodion Henebion Cenedlaethol a’r archifau gwladol i gael mapiau 1:25,000 yr OS neu awyrluniau hanesyddol neu ddiweddar sy’n dangos adeiladau segur, safleoedd diwydiannol neu filwrol neu argloddiau sydd wedi’u codi gan bobl.
Os yw eich safle wedi’i gofnodi yn y Cofnod Henebion Cenedlaethol, byddwch am gynnwys rhif yr NMR yn eich data cofnodi. Gallwch wirio’r rhif ar-lein.
Cymru
www.historicwales.gov.uk
Mae Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Amgueddfa Cymru – National Museum Cymru a’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeoleg yng Nghymru i gyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer adnodd ar-lein o’r enw Porth Cymru Hanesyddol. Mae’r Porth yn rhoi trosolwg ar y cofnodion sydd gan bob sefydliad – gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig.
O ran Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NMRW), ewch i: www.coflein.gov.uk
Mae Coflein yn cynnig mynediad i gofnodion miloedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd morwrol, ynghyd â mynegai i’r lluniadau, y llawysgrifau a’r ffotograffau sy’n cael eu cadw yn archif yr NMRW gan y Comisiwn Brenhinol. Gall safleoedd gael eu dangos naill ai ar fapiau’r Arolwg Ordnans a’u holi’n ddaearyddol, neu ar ffurf cyfres o gyfeiriadau at destunau. Gallwch chwilio’r data fesul lleoliad (enw lle, ardal neu ddalen map Arolwg Ordnans), fesul math (dosbarth neu swyddogaeth y safle, yr heneb neu’r adeilad) neu yn ôl allweddeiriau.
Lloegr
www.pastscape.org.uk/mapsearch.aspx
I ddod o hyd i Rif Pastscape, chwiliwch drwy ddefnyddio’r NGR, y Cod Post neu’r Dosbarth, neu drwy glicio ar y lleoliad ar y map ar y sgrin a chwilio drwy’r rhestr sy’n cael ei chreu, er mwyn gweld a fydd eich safle’n codi neu beidio. Os bydd, cliciwch drwodd i’r tudalen a dewiswch fanylion y safle. Mae’r Rhif Pastscape wedi’i restru yn y Manylion o dan Rif yr Heneb.
Os yw’r safle wedi’i ddynodi’n adeilad rhestredig neu’n heneb gofrestredig, bydd yn ymddangos ar Restr Treftadaeth Genedlaethol Lloegr yn: www.english-heritage.org.uk/professional/protection/process/national-heritage-list-for-england
Yr Alban
http://canmoremapping.rcahms.gov.uk
Mae Canmore yn cyfuno gwybodaeth am leoliadau lleol, manylion y safle a delweddau ynglŷn â mwy na 300,000 o safleoedd archaeolegol, pensaernïol, morwrol a diwydiannol ledled yr Alban. Gallwch ddod o hyd i leoliad safleoedd, chwilio am wybodaeth am safleoedd gan gynnwys delweddau digidol a chasglu cyfeiriadau llyfryddol at safleoedd. Gallwch hefyd chwilio mapiau awyr o’r Alban drwy ddefnyddio allweddeiriau yn: http://aerial.rcahms.gov.uk/worldwide/Scotland.php
Gogledd Iwerddon
www.doeni.gov.uk/niea/other-index/content-databases
Mae cofnodion ynglŷn ag amgylchedd hanesyddol Gogledd Iwerddon yn cael eu cadw ar Gofnod Safleoedd a Henebion Gogledd Iwerddon. Chwiliwch am gofnodion drwy ddefnyddio’r gwyliwr mapiau ar-lein.
Mae gwybodaeth fanylach ar gael hefyd oddi wrth y Cofnod Henebion ac Adeiladau yn Belfast yn NIEA, Built Heritage, Waterman House, 5-33 Hill Street, Belfast BT1 2LA. Yma gallwch edrych ar fapiau NISMR, y Cofnod Treftadaeth Ddiwydiannol (IHR) a’r Rhestr Statudol o Adeiladau Hanesyddol Gogledd Iwerddon. Mae’r ystafell chwilio gyhoeddus yn agored rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus) 9.30am–1.00pm a 2.00p–4.30pm. Argymhellir y dylech wneud apwyntiad.




