Nod prosiect Treftadaeth Ffisegol yr Ymgyrch Gartref yw diweddaru ac ehangu’r wybodaeth am y Rhyfel Byd Cyntaf sydd gan ein Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol (HERs) lleol fel ffynhonnell gyhoeddus o wybodaeth at ymchwil mewn archaeoleg, hanes lleol a hanes teuluol.
Gallwch ein helpu i gadw’n gwybodaeth am y gweddillion bregus hyn a’u storïau drwy ymchwilio i safleoedd lleol yr Ymgyrch Gartref a’u cofnodi, a chyflwyno’ch data i’ch HER lleol ar-lein drwy ddefnyddio’r pecyn cymorth cofnodi hwylus.
Mae gan y wefan yma ddigon o ganllawiau, arferion da ac adnoddau i’ch helpu i ddechrau arni.
Sut mae dechrau?
Does dim rhaid ichi fod yn archaeolegydd nac yn brofiadol mewn gwaith maes er mwyn cymryd rhan yn y prosiect. Rydyn ni’n chwilio am wybodaeth sylfaenol am y lleoliad, y math o safle a chyflwr y safle, fel y mae wedi’i nodi yn ein ffurflen gofnodi hwylus.
Byddem hefyd yn hoffi cael ffotograffau cyfredol o’r safle a’i nodweddion allweddol a braslun neu gynllun syml. Os hoffech wneud ymchwil ddesg ac atodi hen gynlluniau, mapiau, ffotograffau a chardiau post hanesyddol, neu ddyfyniadau o ddogfennau, llyfrau a dyddiaduron, gorau oll.
Camau syml at gofnodi safleoedd
Cam 1
Cysylltwch ag Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru os ydych chi yng Nghymru neu â gwasanaeth y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol os ydych chi yn Lloegr neu’r Alban, neu â Chofnod Safleoedd a Henebion Gogledd Iwerddon. Gallan nhw eich helpu i adnabod safleoedd a phrosiectau i’w cofnodi neu i asesu’r gwerth y gallwch ei ychwanegu at gofnodion safleoedd sydd wedi’u cofnodi ac wedi’u diogelu yn barod.
Cam 2
Dewiswch safle, strwythur neu adeilad i’w gofnodi. Galli fod yn strwythur milwrol pwrpasol, fel maes awyr neu system o ffosydd ymarfer, neu’n adeilad a addaswyd i’w ddefnyddio yn y Rhyfel Mawr, megis neuadd bentref leol a ddefnyddiwyd fel neuadd ymarfer, ffatri a gafodd ei defnyddio i wneud arfau neu adeilad amaethyddol. O ran cofebau rhyfel, gweler prosiect cofnodi Cofebau Rhyfel Ar-lein.
Lle da i ddechrau yw chwilio ar fapiau 1:25,000 yr OS neu awyrluniau yn y Cofnodion Henebion Cenedlaethol ac mewn archifau am adeiladau segur, safleoedd diwydiannol neu filwrol neu argloddiau sydd wedi’u codi gan bobl ac wedyn troi at y cofnodion a’r gwasanaethau archaeolegol. Gweler y tudalen ymchwil ddesg ar y wefan yma i gael syniadau ynglŷn â ffynonellau.
Gallwch gael rhagor o syniadau yn rhai o’r astudiaethau achos ar ein gwefan ac yn ein Canllaw i Gofnodi Adeiladau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Cam 3
Ar ôl ichi ddewis eich safle, a chyn ichi fynd i’r maes, gwnewch eich ymchwil ddesg yn gyntaf i ddysgu rhagor am gyd-destun eich safle cyn ichi ymweld ag ef. Mae’n bosibl y byddwch am gyflwyno’r wybodaeth yma ar eich ffurflen gofnodi.
Ydy’ch safle eisoes ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol? Os felly, efallai yr hoffech ddiweddaru’ch data cofnodi, gan ganolbwyntio ar gyflwr y safle ac unrhyw fygythiadau iddo, ac ychwanegu arsylwadau maes ychwanegol neu fanylion dogfennol.
Ydy’ch safle wedi’i restru neu wedi’i ddiogelu. Os felly, ar ba lefel? Os gallwch ychwanegu at ein gwybodaeth o’i arwyddocâd drwy ychwanegu data at y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, efallai y caiff ei ystyried o safbwynt dynodiad uwch.
Oes safleoedd perthynol eraill yn yr ardal? Oes pobl hysbys a fu’n gysylltiedig â’r safle yn 1914-18, neu a oedd yna ddigwyddiadau nodedig yn lleol, megis cyrch Zeppelin neu ffrwydrad arfau?
Gall ymchwilio i gefndir eich prosiect fod yn ddifyr iawn, naill ai drwy chwilio yn y cofnodion a’r archifau cenedlaethol a lleol ar-lein, neu drwy ymweld ag amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol. Gall dogfennau, llyfrau a delweddau ychwanegu toreth o fanylion lleol at gofnodion archaeolegol, ond gofalwch gynnwys cyfeiriadau at eich ffynonellau a bod gennych chi ganiatâd hawlfraint i gyflwyno gweithiau sydd wedi’u cyhoeddi o’r blaen.
Cam 4
Cyn ichi fynd ar y safle, rhaid ichi gael caniatâd y tirfeddiannwr, yn arbennig felly yn achos safleoedd milwrol. Mae’r gofynion cyfreithiol yn amrywio ar draws y Deyrnas Unedig ac mae mynediad cyhoeddus a phreifat ar gael ar rai safleoedd, felly y peth gorau yw holi cyn ichi ymweld.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd o ddiogelwch ar y safle a gofalu wrth ichi weithio yn agos at adeiladau neu argloddiau dadfeiliedig. Efallai yr hoffech ddefnyddio’n templed i gynnal asesiad risg ynglŷn a’r peryglon posibl er mwyn eich diogelu chi’ch hun a’ch tîm cofnodi cyn ichi ddechrau ar eich gwaith maes.
Cam 5
Bellach rydych yn barod i gwblhau ymweliad â’r safle gan ddefnyddio’n pecyn cymorth cofnodi. Cofrestrwch ar y wefan yma, sef gwefan Treftadaeth yr Ymgyrch Gartref, er mwyn cyrchu fersiwn o’n ffurflen gofnodi ar ffurf ar-lein, ap symudol, Word neu PDF.
Efallai yr hoffech fynd â binocwlar, offer i dynnu lluniau a mesur, camera neu ffôn camera a dyfais symudol neu lechen os ydych chi am lenwi’r ffurflen gofnodi ar y safle.
Mae’r ffurflen ar-lein neu symudol hyblyg yn cyflymu’r broses gofnodi â thechnoleg fapio syml, detholiad o dermau a dyddiadau pwrpasol a dulliau atodi ffeil. Os nad yw’r signal 3G yn dda, gallwch gadw’r ffurflen yn eich dyfais cyn ichi gychwyn allan a’i llenwi er nad ydych chi ar-lein, i’w chyflwyno wedyn pan fydd y signal yn dychwelyd neu drwy WiFi. Fel arall, lawrlwythwch y ffurflen bapur a’i hargraffu a chopïwch y manylion i’r fersiwn ar-lein wedyn.
Hefyd, gweler ein Canllaw i Gofnodi Safleoedd ac Adeiladau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Cam 6
Cliciwch ‘cyflwyno’ ar y ffurflen ar-lein er mwyn anfon eich data gan gynnwys ffotograffau a sganiau yn uniongyrchol i’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol neu’r Cofnod Safleoedd a Henebion lleol. Cewch gydnabyddiaeth drwy’n e-bost ac adysgrif o’r wybodaeth rydych chi wedi’i chyflwyno. Pwyswch ‘ailosod’ er mwyn cyflwyno cofnod newydd.
Ar ôl ichi ei gyflwyno, bydd eich safle’n ymddangos fel pin coch ar fap cyhoeddus, map o safleoedd a phrosiectau yn y Deyrnas Unedig. Caiff y defnyddwyr glicio ar y pin er mwyn gweld y data sydd wedi’i gyflwyno ac unrhyw ddelweddau ac atodiadau.
Pan fydd eich safle wedi’i gofnodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol bydd eich data’n bwydo canlyniadau unrhyw gynigion cynllunio yn y dyfodol ac mae’n bosibl yr ystyrir rhestru a diogelu’r safle ar raddfa genedlaethol.
Drwy garedigrwydd Richard Osgood




